AUDREY WILLIAMS, TYN TWLL, NANT Y RHIW
Passed away on the morning of Sunday, 27 November 2011, after a short spell in hospital, Ms Audrey Williams of Tyn Twll, Nant y Rhiw, was most recently resident in Llanrwst. Sympathy to all her family from those who remember her over her lifetime. Audrey was the daughter of Emily and Idwal Williams, and sister to Gwyneth. Emily's parents were Eunice Lois (Edwards, Tyddyn Du) and John Owen Jones who at one time lived at Bryn Fawnog; their other children were Owen, Lizzie Jane and David.
ANGLADD
Daeth bywyd un o ragorolion y ddaear i ben yn ddiweddar.
Un o Ty’n Twll, Nant-y-Rhiw oedd y diweddar Audrey Eurwen Williams a fu farw’n annisgwyl o sydyn yn Ysbyty Glan Clwyd ar fore dydd Sul y 27ain. o Dachwedd 2011 yn 80 mlwydd oed wedi gwaeledd byr ar ôl iddi gael strôc yn ei chartref yn 18, Llwyn Brith, Llanrwst, bedwar diwrnod ynghynt.
Cynhaliwyd gwasanaeth coffa i Audrey am 12.30 o’r gloch pnawn dydd Mercher y 7fed. o Ragfyr, 2011 yn Capel Tabernacl, Llanrwst, dan arweiniad y Parchedig Eryl Lloyd Davies a rhoddwyd ei chorff i orffwys wedyn ym meddrod ei diweddar ddyweddi ym Mynwent Cae Melwr finfin â Ffordd Nebo ar gyrion y dref – ei gwaith a’i gorffwys bellach wedi mynd yn un.
Daeth aelodau o’i theulu a nifer o’i chyfeillion yn ogystal ag eraill i’w hangladd i ddiolch i Dduw am ei bywyd ac i ffarwelio â hi mewn hiraeth dwys a dagrau di-rif.
Mrs. Buddug Jones oedd wrth yr organ a’r cludwyr oedd y ddau frawd Gordon a David Jones a fagwyd yng Nghapel Garmon, Gwyndaf Davies gynt o Nant-y-Rhiw ac Albert Jones o Melin-y-Coed.
Derbynwyd blodau er cof am Audrey oddi wrth:
Gwyneth ac Emlyn, Llanrwst, Evelyn ac Ieuan, Nant- y Rhiw, Lynda a Trebor, Llannefydd, Glesni ac Euros, Nant-y-Rhiw, Delyth ac Aron, Llannefydd a Dafydd, Sarah a Catrin, Llanrwst.
Dymuna’r teulu ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd yn ystod eu profedigaeth yn ogystal ag am y rhoddion a dderbywnwyd yn ddiolchgar er cof am Audrey er lles Adran Strôc, Ysbyty Glan Clwyd. Carent ddiolch hefyd i Williams a Davies, Pentrefoelas, am drefnu’r angladd.
Cydymdeimlwn â theulu Audrey yn ogystal â’i chyfeillion lu yn nhywyllwch eu profedigaeth. Bydded heddwch i’w llwch a bendith ar ei choffadwriaeth.
Daily Post Fiday December 2, 20011 :
WILLIAMS - AUDREY EURWEN, Tachwedd 27ain. 2011. Yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd ac o 18 Llwyn Brith, Llanrwst ( gynt o Tyn Twll, Nant-y-Rhiw) yn 80 mlwydd oed. Cymar annwyl y diweddar Hugh Roberts, chwaer hoff Gwyneth a modryb garedig Evelyn a Lynda. Angladd ddydd Mercher Rhagfyr y 7fed. 2011. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Tabernacl, Llanrwst am 12.30 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Cae Melwr. Blodau gan y teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Adran Stroc Ysbyty Glan Clwyd, trwy law Williams & Davies, Penlan, Pentrefoelas. 01690 760263.
Er Cof am Audrey Eurwen Williams
Bu farw’r diweddar Audrey Eurwen Williams yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd am 5 o’r gloch bore dydd Sul y 27ain. o Dachwedd 2011 yn 80 mlwydd oed wedi iddi gael strôc drom yn ei chartref yn 18 Llwyn Brith bedwar diwrnod ynghynt a chyn i’m côf amdani syrthio i dywyllwch ac ebargofiant, fe hoffwn ddweud gair neu ddau amdani yn ' Yr Odyn ' y mis hwn.
Gedy’r ymadawedig un chwaer a dwy nith i alaru ar ei hôl ac yn ogystal â hynny roedd yn brith berthyn i wraig y gohebydd hwn ac fel Anti Audrey y nabodem ni hi.
Roedd Audrey’n fonesig fychan o ran corff ond rhadlon o ran ysbryd. Er y byddai’n hoffi mân siarad â phawb yn ddiwahân, roedd Audrey’n ddynes aruthrol o breifat. Nid oedd wedi dod allan o’i chragen yn gyfangwbl ac ni chrwydrodd rhyw lawer y tu hwnt i’w milltir sgwâr. Bu’n ddyweddïedig am ddeugain mlynedd a rhoddwyd ei gweddillion marwol i orwedd ym Mynwent Cae Melwr ym meddrod ei chariad a fu farw ar yr 2ail. o Orffennaf 1993. Hefyd, bu’n gofalu’n dyner am ei mam ar fferm Ty’n Twll, Nant-y-Rhiw, am flynyddoedd cyn i honno farw y 19eg. o Dachwedd 1992. Wedi’r ddwy brofedigaeth grybwylliedig, fe symudodd Audrey i fyw ar ei phen ei hun yn Llanrwst.
Cydymdeimla fy ngwraig a minnau â phawb sydd yn teimlo’r ing cignoeth o’i cholli.
Dafydd Jones
The year 2011 was a sad one for the family of the late Mary and William Roberts of Bod Wylim. In a short space of time three family members passed away, a son, a daughter and a son in law.
Robert Hugh Roberts (Bob Bont) of Pen y Bont, passed away 4 July 2011 aged 86. Dear husband of Nance, father of Garry, Karen and Nigel. Laid to rest in Llangernyw 13 July 2011.
Thomas Arfon Evans, husband of Edna and father of David and Marie passed away July 12th 2011, aged 83, and was laid to rest in Llanfairtalhaiarn.
Margaret Elizabeth Jones, daughter of Mary and Wil, passed away July 18, 2011, aged 90 years. She was the wife of the late David John Jones and mother of William, Eifion and Eirlys, and a loving grandmother and great grandmother.
Above: David John and Margaret Elizabeth.
Sister in Law Janet Roberts said: "They all had a lovely funeral as funerals go. Bob was private for the family only. There was a very good turn out for Mag and the singing was wonderful as members of the Maelgwyn Male Voice Choir was in the congregation. The chapel was full. The same also for Tom."
Sympathy to all the family, especially Edna, who lost her husband, brother and sister in such a short space of time.
Margaret was born in Garth Hebog, and lived in Nant y Fedwen and Bod Wylim. At the age of 13 she worked for a Llanrwst teacher related to her grandfather, William Evans, caring for a Miss Thomas, the teacher's sister, in George Street, Llanrwst.
Later, she worked for six and a half years as a cook's assistant in a convalescent home called Plas Mariandir in Llanrhos, where she was the only Welsh girl. This was around 1939, and the Matron was Miss Selby Mason.
Knowing Margaret was particularly fond of a particular cut of meat, Miss Selby Mason would call out when there was lamb for dinner, "Where's Margaret? There's a tail for her!" Margaret was in charge of the keys to the store.
While working there she got to know her future husband, David John, and his brother, Arthur.
Above: Margaret's family.
Above: A community event in Bryn Pydew with her cousin, Annie Ceridwen (and Llinos), and neighbours.
Margaret at Bod Wylim in the summer of 1965
NANT Y RHIW
Talfyriad o Deyrnged y Parchedig Eryl Lloyd Davies ddydd angladd y diweddar Owen Jones Cyffdy
Ymadawodd y cyfaill hoff Owen Jones, Cyffdy, yn dawel a distaw yn ei gwsg yn Ysbyty Llandudno. Roedd yn un o unarddeg o blant a anwyd i Thomas a Mary Elin Jones, Garth y Pigau. Cafodd ef a’i ddiweddar frawd Edward, Evan, Griffith a Mair eu bedyddio gyda’i gilydd yng Nghapel Penuel yn nhrefn yr Eglwys Fedyddiedig. Aeth i weithio i Plas Tirion. Pan gafodd Ted, ei frawd, ddamwain Owen Jones gymerodd ei le yn Plas Ucha, Treffynon, cyn ymuno rai blynyddoedd yn ddiweddarach â Ted yn y Cyffdy ac yno y bu nes dod yn berchen ar Cyffdy.
Roedd yn gymeriad distaw, rhadlon a boneddigaidd. Ac, fel y gwyddoch, mi fu llawer o bobl yn heidio i’r Cyffdy yn rheolaidd i weld a chael hanes myrdd o hen greiriau arbennig oedd yno. Bu sawl ymweliad gan Gymdeithasau Merched y Wawr. Ar gais ei weinidog, y Parchedig Idwal Jones, fe gynhaliodd Ddiwrnod Agored er budd capel Nant y Rhiw. Te i bawb wedi ei baratoi mewn adeilad gerllaw. Ac fe wnaed elw sylweddol at achos oedd mor agos at ei galon. Mae’n ffaith ddiamheuol fod gan Owen Jones feddwl mawr o gapel bach Nant y Rhiw. Bu’n cynrychioli Melin y Coed ar y Cyngor Plwyf tan y llynedd. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Cymanfa Fach yr Annibynwyr nes ymddiswyddo oherwydd cyflwr ei iechyd. Roedd ganddo ddiddordeb angerddol mewn canu nid yn unig yn ei gapel a chapeli’r fro ond hefyd fel aelod o Barti Melin y Coed a chymdeithasau Bethel, Melin y Coed. Ei ddiddordeb arall oedd chwarae pŵl. Gwae neb a drefnai unrhyw bwyllgor neu gymdeithas ar nos Lun gan ei fod yn mynd efo’i frawd Ifan am gem o pŵl yn y Queens. Câi bleser yn gwylio pŵl, snwcer, biliards a phob math o chwaraeon ar y teledu yn ei ystafell y misoedd diwethaf ma. Mi fydd bwlch mawr ar ei ôl yn ei gapel lle roedd yn ddiacon ac yn ffyddlon mewn sawl man a chymdeithas.
Cydymdeimlwn yn fawr iawn gydag Arwel, Mair, Aled, Clwyd, Afan a Robert gyda Gareth, Angela, Lwsi, Harri a Rosie, gydag Evan, Griff a Mair a’u teuluoedd. Hefyd gyda’r perthnasau a’u cysylltiadau yn eich profedigaeth lem. Owen Jones oedd yn dewis yr emynau oedd i’w canu yn y gwasanaethau ar bnawn Sul yn Nant y Rhiw. Cefais achos i ryfeddu lawer gwaith fod ei ddewis o emyn i gloi’r oedfa yn ffitio’r neges a geisiwn ei chyflwyno i’r dim. Mae bellach allan o bob poen a gwewyr ac yn gorffwys yn hedd ei Waredwr y canodd cymaint amdano. A’n gweddi yw ' Doed y Nefol Awel Dyner i’n cyfarfod yn y glyn; Nes y teimlai’i draed yn sengi ar uchelder Seion Fryn.
(Owen Jones, Cyffdy, passed away peacefully and quietly in his sleep in Llandudno Hospital. One of eleven children born to Thomas and Mary Elin Jones, Garth y Pigau, he and his late brother Edward were, along with Evan, Griffith and Mair, baptised in Penuel Chapel. He went to work at Plas Tirion, but when Ted, his brother, sustained an accident, Owen Jones took his place in Plas Ucha, Treffynon, before joining Ted some years later at Cyffdy, where he stayed until he became the owner.
As owner, he used the attractions of the property for the benefit of various causes, including his beloved Nant y Rhiw Chapel, and represented Melin y Coed on the Parish Council until last year. He was fond of singing, and watched pool, snooker, billiards and all sorts of other games on the TV in his room in the last months of his life.)
10 June 2010
JONES - OWEN (Owen Jones Cyffdy Hall) 10 Mehefin 2010, yn sydyn ond yn dawel yn ei gartref, Cyffdy Hall, Llanrwst, yn 88 mlwydd oed. Ewythr a brawd tyner, bydd yn golled enfawr i'w deulu a'u holl gydnabod. Angladd cyhoeddus Fore Iau, 17 Mehefin, gwasanaeth yn Eglwys y Tabernacl, Llanrwst, am 10.00 o'r gloch ac i ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Cae Melwr. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar os dymunir tuag at Capel Nant-y-Rhiw, drwy law yr ymgymerwr G. Lloyd Jones, Sgwar Ancaster, Llanrwst. Ffon 640600
Suddenly but peacefully at home in Cyffdy Hall, in his eighty eighth year. A kind uncle and brother and an enormous loss to his family and acquaintances. Public funeral Thursday morning 17 June, service in Tabernacle Church, Llanrwst, at ten o clock, followed at the graveside in Cae Melwr Cemetery. Family flowers only; donations in his memory towards Nant-y-Rhiw chapel will be gratefully received through G. Lloyd Jones, Llanrwst. Tel 640600.
MRS ANNIE CERIDWEN OWEN (nee Evans)
Above: Annie Ceridwen Evans in July 1917
Daily Post, Tuesday May 26, 2009:
OWEN - ANNIE CERIDWEN on May 21st 2009. Peacefully at Llandudno Hospital, aged 93 years and of Pendorlan Road Penrhyn Bay formerly of Bron Heulog, Bryn Pydew. The dearly beloved Wife of the late Glyn Owen and the devoted and caring Mother of Gwyn and Rita, Stan and Brenda, John and Dorothy and Llinos and Brian, cherished Nain of John, Angela, Adrian, Tesni and Elin and a much loved great Nain and special Aunt and the dear Sister of Hugh, she will be greatly missed by all her family and many friends. Public service at Capel Coffa, Llandudno Junction on Friday May 29th at 12.15 pm followed by interment at Llangwstenin Cemetery. Family flowers only please but if desired donations would be gratefully accepted towards the Welsh Air Ambulance Appeal and the R. N. L. I. (Llandudno).
Above: Annie aged 15
Daily Post, Saturday, 23 May, 2009:
OWEN - ANNIE CERIDWEN Mai 21ain, 2009. Yn dawel yn Ysbyty Llandudno yn 93 mlwydd oed o Ffordd Pendorlan, Bae Penrhyn gynt o Bron Heulog, Bryn Pydew. Priod annwyl y diweddar Owen Glyn Owen a mam gariadus a gofalus Gwyn a Rita, Stan a Brenda, John a Dorothy a Llinos a Brian, nain garedig John, Angela, Adrian, Tesni ac Elin a hen nain a modryb arbennig iawn a chwaer hoff Hugh. Bydd yn golled fawr i'w theulu a llu o ffrindiau. Gwasanaeth yng Nghapel Coffa, Cyffordd Llandudno ddydd Gwener Mai 29 am 12.15 o'r gloch ac yn dilyn ym Mynwent Llangwestennin. Blodau'r teulu'n unig ond fe dderbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Apel Ambiwlans Awyr Cymru a'r R. N. L. I. (Llandudno). Ymholiadau i T. Conchar a'i Feibion, 4 Woodland Road West, Bae Colwyn LL29 7DH Ffon 01492 532206.
Above: Annie and Glyn on two wheels
Well known and much loved, renowned for her hospitality and charm, a fount of family memories, now at rest.
Above: Annie and Glyn on their Wedding Day.
Again sharing a beautiful resting place.
"I am so glad that I got to meet her. She was a great lady." Janet Schappert, Canada.
"It was a great shock to all - a real bolt out of the blue. I shall miss her dearly as we spent most Fridays together - we went out for drives or lunch or tea. She was easy to be with and good company and a good friend." - Margaret Dobbs.
"A lovely funeral for a lovely lady" - Steve Dobbs.
GAIR O GOFFAD
Mae modryb i'm gwraig o du ei diweddar fam yn haeddu gair o goffa ar y dudalen boblogaidd hon o wefan Melin-y-Coed.
Merch i'r diweddar gipar William Evans, Fron Wen, Nant-y-Rhiw, o'i ail wraig, Ellen Ann, oedd Mrs. Annie Ceridwen Owen a hunodd yn dawel yn yr angau yn Ysbyty Llandudno yn 93 oed fore Iau, Mai 21ain, eleni ac a gladdwyd ym meddrod Owen Glyn Owen ei diweddar ŵr ym Mynwent Llangwstenin brynhawn Gwener y 29ain o'r un mis.
Bonesig hynaws a hawdd gwneud gyda hi oedd Anti Annie a phan ydoedd ar dir y byw, fe gadwai dŷ agored yn "Bron Heulog" ym Mae Penrhyn lle y croesawai pob ymwelydd yn ddiwahan. Heidiai llawer o'i chydnebydd a'i theulu yno i'w gweld a chaent groeso heb ei ail ar ei haelwyd. 'Roedd llawer yn ei hadnabod ac yn ei hoffi a'i charu'n fawr iawn a hi oedd matriarch y teulu a cheidwad ei hanes.
Gedy dri mab ac un ferch, dau ŵyr a thair wyres ac un brawd a llawer o berthnasau eraill yn ogystal a llu di-rif o gyfeillion annwyl i alaru ar ei hôl. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â phawb a deimlodd yr ing mawr o golli anwylyn mor boblogaidd.
Dafydd Llewelun Jones
THE DAY OF THE FUNERAL
Capel Coffa, Llandudno Junction, was so full on Friday afternoon, 29 May, 2009 for Auntie Annie's funeral that many of the mourners had to pack themselves into the vestry at the back of the chapel. Auntie Annie's light oak coffin lay on a small collapsible bier in front of the pulpit, covered from one end to the other with a massive floral tribute of mixed yellow flowers and roses. The oration was delivered by a former minister of the chapel who knew her well. He called upon her son Stan to speak on behalf of the family, and then read a tribute sent by her son Gwyn from New Zealand.
"Mum had a fantastic tribute at her funeral - and I couldn't believe seeing all the people. The funeral director thinks that there were near to 300 people at the chapel! Everything went well - Rev Eryl Lloyd Davies said a prayer and read out the first hymn - he is Uncle Hugh's minister. Then Rev John Watkin (retired) took the service and paid tribute and also Rev Blodwen Jones (recently retired) did a reading - all lovely, and to top it all Stan also said a few words." - Llinos
The service lasted an hour and the wonderful bass and tenor singers added considerable timbre and feeling to the hymn singing. The hearse and funeral cars took a little less than an hour to reach the cemetery at Llangwstenin.
"It was swelteringly hot. As I followed the family down to the gravesite I turned and looked in amazement at the great black phalanx of mourners stretching back up the hill - at least three hundred of them. After the graveside service family members dropped roses from the floral tributes down onto the coffin." - Dafydd
Afterwards, friends and family met up again in the chapel vestry for a magnificent repast prepared by willing, loving hands, a moving reminder of the hospitality typical of Annie Ceridwen Owen.
"The sun was shining and we all went back to the chapel for tea after the buriel at Llangwstenin. The ladies of the chapel had made a brilliant tea of lovely sandwiches and home made cakes - approx 140 people had tea." - Llinos
"Angladd parchus iawn. 'Roeddwn yn adnabod Mrs Owen ers yn blentyn gan fy mod wedi fy'n ngeni a magu ym Mryn Pydew." - Mary Jones, Llwyn Richard.
Auntie Annie had a beautiful and dignified farewell, so appropriate to the beautiful and much loved person she was.
Above: Annie February 1996 (Photo Dafydd Jones)
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Patricia Anne Williams, MBE
North Wales Weekly News:
WILLIAMS PATRICIA ANNE (PAT)
March 6th 2009
Peacfully at her home Tyn Gwern Isaf Llanddoged after a long illness faced with great courage and cheerfulness in the loving care of her family, aged 60 years. Loving wife of Terry, much loved and caring mother and mother in law to Hayley and Haydn, devoted and kind Nain to to Sam, dear Sister and Sister in law to Arfona and Chris, Sheila and Neil and a fond Aunty. Pat will be sadly missed by all her family and friends. Public funeral Monday March 16th, service at St Grwst Church, Llanrwst at 1 pm followed by cremation at Colwyn Bay at 2 pm. No flowers and no dark clothing please. Donations if desired will be gratefully received in loving memory of Pat toward Llanrwst District Nurses and Alaw Ward day Unit at Gwynedd Hospital, Bangor, c/o D Gwynfor Griffiths, Funeral Director, Golygfa'r Dyffryn, Trefriw, Llanrwst (01492) 640722.
(From the North Wales Weekly News of 13 March 2009)
PAT WILLIAMS
Friend to MYC and Historians World Wide
Patricia was known around the world for her work with Family History and Local History. One of her last undertakings was to prepare the tribute to her mother, Mrs Mair Gwendoline Roberts, which appears below, for inclusion on this Melin-y-Coed website. Now it just remains for the next generation to carry on her work and interest.
Almost to the last, Pat Williams was busy with the Llanrwst Family History Society, as demonstsrated by the picture above of Pat actively involved in the activities of the Society in December 2008. She signed her name on 4 February 2009 in the Society's register for the last time and slipped into history herself a few weeks later.
The topic was the life history of Thomas Telford.
"Yr Odyn" (Rhif 374 Mawrth 2009):
COFFAD PAT WILLIAMS
Daeth ton o dristwch dros ardal Llanddoged a Llanrwst pan fu farw Mrs. Pat Williams ar Fawrth 6ed., 2009. Fe'i ganwyd a'i magwyd yn Llanrwst yn ferch i Mr. a Mrs. Bob Roberts ac yn chwaer i Sheila ac Arfona. Yn 1977 symudodd hi a'i phriod Terence a'u merch Hayley i fyw yn Tyngwen Isa, Ffordd Bryn Saith, Llanddoged.
Bu Pat yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych ac yna fel rheolwr Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Metws-y-Coed. Etholwyd hi ar Gyngor Tref Llanrwst a theimlai'n fawr o gael bod yn Faer Llanrwst yn 1990-91. Anrhydweddwyd hi gyda'r MBE am ei gwaith i wleidyddiaeth.
Yn y 90au cynnar dechreuodd gynnal boreuau coffi at wahanol elusennau gan gynnwys Ty Gobaith. Dros wyth mlynedd yn ol cafwyd ei bod yn dioddef o gancr yr ofari a rhoddodd hyn awydd ychwanegol iddi godi arian at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd yn ogystal a chefnogi eraill yn yr un cyflwr a hi. Dros y blynyddoedd mae wedi codi dros £10,000 tuag at wahanol elusennau.
'Roedd yn gadeirydd Cymdeithas Hanes Llanrwst a'r Cylch ac yn gysylltiedig a chreu gwefan Llanrwst yn ogystal a darparu gwybodaeth i Safle BBC y Gogledd Orllewin. O ganlyniad i'w diddordeb mewn Hanes Teulu treuliodd lawer o amser yn Archifdai Llandudno a Chaernarfon; roedd yn un o dair ffrind a gynhyrchodd lyfrau ar hanes Stryd Watling a Stryd Scotland, Llanrwst.
Cafodd lawer o bleser o arddio ac roedd ei gardd yn werth ei gweld, yn amrywiol a lliwgar.
'Roedd Pat yn benderfynnol nad oedd y cancr yn mynd i reoli na distrywio ei bywyd; a dywedai'n aml "Mae'n rhaid iddo fyw efo fi ac nid fi efo fo".
Mwynhaodd fywyd i'r eithaf gan ddatgan ei dyhead i gyrraedd ei phenblwydd yn 60 oed er mwyn iddi gael tocyn bws rhad!!! Fe'i gwnaeth.
Edmygwyd hi gan ei chydnabod am ei sirioldeb, ei chwant a'i hagwedd bositif at fywyd. Merch ddewr a gwen bob amser. Bydd colled ar ei hol.
----------------------------------
MR EGRYN JONES
Tyn Twll and Maes Llydan
27 December 2008
Above: Egryn and Gwyneth Jones in Bethesda in 1993 at the wedding of their son David.
Sympathy to the family of Egryn Jones(above), formerly of Tyn Twll, Nant y Rhiw, and Maes Llydan, Capel Garmon, who passed away suddenly but peacefully aged 84 on Saturday, 27 December, 2008 and was laid to rest in Capel Garmon 19 January 2009.
Egryn's coffin was transported on a Victorian wheeled bier formerly used in Llanrwst in the funerals of the poor people of the town. This was pushed uphill from Seion to the church graveyard at Capel Garmon by the bearers. It was bitterly cold at Capel Garmon with threats of sleet and rain in the air but the weather held out just long enough for the funeral to end properly in a dignified manner before the weather turned really foul. (Thanks to Dafydd Jones for this information).
The Daily Post announced his death thus:
JONES - EGRYN, 27 Rhagfyr 2008. Yn sydyn ond yn dawel yng Nghartref y Borth, Llanrwst ac o 1, Maes Llydan, Capel Garmon yn 84 mlwydd oed. Priod annwyl Gwyneth, tad arbennig Sandra, David, Gordon, Raymond a Heather, a tad-yng-nghyfraith a taid gofalus. Angladd brynhawn Llun, 19 Ionawr, 2009. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seion, Capel Garmon am 1 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent yr Eglwys. Blodau'r teulu'n unig, ond os y dymunir, derbynnir yn ddiolchgar rhoddion er cof tuag at Dolanog a Cartref y borth trwy law G. Lloyd Jones, Cyfarwyddwr Angladdau, Sgwar Ancaster, Llanrwst.
Below is the Rev. Eryl Lloyd Davies' eulogy.
Carwn ddiolch yn gyntaf ar ran y teulu ac hefyd ar ran Capel Nant-y-Rhiw i swyddogion Capel Seion, Capel Garmon, am gael defnydd o'r capel ar gyfer y prynhawn 'ma, a hynny nid yn unig er mwyn hwylustod ond hefyd mi gredaf ei bod yn addas gan mai yma y bu'r diweddar Egryn Jones yn byw am dros ddeugain mlynedd olaf ei fywyd. Fe'i ganwyd yn 1924 a bu farw ei fam, Lizzie Jane, ychydig ddyddiau wedi iddo gael ei eni. Fe'i magwyd gan ei fodryb Emily gyda'i merched Audrey a Gwyneth yn Ty'n Twll, Nant-y-Rhiw. Ffermio, contractio ac yn y blaen y buo fo ac yna wedyn priodi Gwyneth a symud i fyw i Capel Garmon 'ma rhyw bedwar deg mlynedd yn ol. Yn ol a ddeallaf roedd Egryn yn ddyn tawel, yn hoffi'r encilion, yn hynod hoff o gael sgwrs ac ymgomio. 'Roedd hefyd yn berson gwerthfawrogol ac yn barod iawn i ddatgan ei ddiolch. Yn weithiwr hynod gydwybodol, yn un y gellid dibynnu arno gan wybod bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn ac nid rhywsut rhywfodd. Ffermio, paentio, decoretio, gosod concrid blocs, adeiladu a son am yr ystwyth, doedd dim to na changen yn rhy uchel i Egryn. Fe wn bod sawl un yma'r prynhawn 'ma sydd yn barod iawn i dystio mai un felna yn union oedd o. Mi rydan ni weinidogion yn son am gyhoeddiadau'r Sul, wel mi roedd gan Egryn gyhoeddiad ddydd Mercher cyntaf bob mis yn marchnad Beeston, Sir Gaer. Mi roedd yn ddiffael gyda'i dap mesur yn prynu coed ac offer i'w alluogi i wneud ei waith yn yr ardal 'ma gan ganolbwyntio yn benodol ar Gapel Garmon, Nebo, Nant-y-Rhiw a'r cyffinau. Roedd yn gymeriad hynod hoffus, cynnes a chyfeillgar a chwith oedd ei weld wedi ei gaethiwo gan lesgedd ac afiechyd ac fe ddiolchwn i Dduw ei fod bellach allan o'i boen a'i flinder ac wedi ei ryddhau o hualau caethiwed. Wel, deulu annwyl, mae hi wedi bod yn amser aruthrol o hir i chi aros hyd heddiw 'ma. Tri diwrnod o 2008 a deunaw o 2009, ond mi rydach chi wedi ymdopi'n rhyfeddol ac mi rydan ni fel cynulleidfa yn estyn i chi ein cydymdeimlad cywiraf. Mrs Gwyneth Jones, mawr fu eich gofal a'ch ffyddlondeb i'ch priod, rydych eisoes yn teimlo'r chwithdod o beidio mynd i lawr i'r dre i ymweld a'ch priod. Duw a'ch cysuro a'ch diddana yn eich hiraeth a'ch galar. Cydymdeimlwn hefyd gyda Sandra a Tony a David a Sandra, Gordon a Thong, Raymond a Sally, Heather ac Allan, hefyd gyda'r wyrion a wyresau, Glesni, Tack, Moi a Toby. Dymuniad Mrs. Jones a'r teulu yw i mi ddatgan eu diolch cywiraf i Mrs. Gwyneth Jones, Gwninger a Mrs. Meri Williams, Cefn Rhydd, i'r merched sydd wedi paratoi'r lluniaeth, i'r teulu, cyfeillion, cymdogion am y cymorth a'r gefnogaeth a dderbyniasant, i'r meddygon ac yn arbennig i gartref preswyl Dolanog a Chartref y Borth ac i G L Jones yr Ymgymerwr.
--------------------------------------------
12 DECEMBER 2008
MRS MAIR GWENDOLINE ROBERTS nee Williams
MAIR GWENDOLINE ROBERTS
Mair Gwendoline Roberts, who passed away 9 November 2008, was born 3 June 1924 to Harriet Elizabeth and Edward Hugh John Williams at Pentreucha, Melin y Coed. Harriet Elizabeth was born in Holywell, and Edward was born in Trefriw.
Edward became a shoemaker, and was known as "Ned Bach Crydd" (Little Ned the Shoemaker). His family is still known as "Teulu Ned Bach Crydd" (the family of Little Ned Shoemaker). His height is said to have led to his being sent home from the army because he wasn't tall enough, and he was identified as the smallest soldier in the British Army.
Above: Newspaper clipping naming Edward Williams as the smallest soldier in the British Army.
Ned was one of the characters of Llanrwst and was very well known for his talent for reciting poetry and his prowess as a raconteur. He was also known for his prowess at playing bowls.
Above: Edward Hugh Williams, otherwise known as Ned Bach Crydd.
Above: Mair Gwendoline Williams seated and her sister Sarah Ellen standing.
Mair worked for many years in the Star Supply Stores, going out on the deliveries. She also worked in E B Jones, the grocers, and E D Burns, the Fishmongers and Greengroceers. She also worked at Siop Llew Phillips.
Mair married Robert Henry Roberts, a grandson of William and Sarah Anne Roberts of 6 Pentre Tafarn y Fedw, mentioned elsewhere on this website.
Above: Robert Henry and Mair Gwendoline Roberts.
Over the past twenty years Mair and her sister Menna became local characters in their own right, "following in their father's footsteps", according to Mair's daughter Patricia Williams. "Everyone knew them and stopped to chat with them," says Patricia. "They were like 'Hinge and Bracket' or 'Bill and Ben' - you never saw one without the other."
Above: Mair Roberts in 2007
Mair Roberts' daughter Patricia is also well known, not only in Llanrwst for her former civic duties as Mayor and her role in the Llanrwst Historical Society but internationally from her days in the Tourist Office in Betws-y-Coed and for the assistance she has given to many expatriates and descendants of local people on Family History websites such as Rootsweb Clwyd, the BBC website, and others, not excepting the Melin-y-Coed website, which has received the benefit of her research and local knowledge.
----------------------------------------------
"ANNIE GARTHMYN"
MRS MARGARET ANNE DAVIES
29 October 2008 aged 98
Laid to rest on November 7th was Mrs Margaret Anne Davies ("Annie Garthmyn"), who passed away 29 October, 2008, at the age of 98. The extended family are grateful to all who helped and cared for her in many ways - her neighbours in Station Terrace, Mr Peter Goodwin, friends in the Tabernacle Chapel, the Staff of Cartref y Borth, and of course the continued loving care of her nephew Robert.
Above: A sprightly Mrs Davies at Cartref y Borth in February 2006, holding up photos of her sister Phoebe's family and her cousin Katie.
Below: A notice from "The Daily Post" of 4 November 2008.
DAVIES - MARGARET ANNE Hydref 29, 2008 yn dawel yn Ysbyty Llandudno gynt o Cartref y Borth a Station Terrace, Llanrwst yn 98 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Joseff (Joe). Modryb addfwydn a charedig i Robat ac hefyd Anne ac Eirian. Bydd chwithdod o'i cholli gan y teulu a'i ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Gwener Tachwedd 7fed. Gwasanaeth yng Nghapel y Tabernacl, Llanrwst am 2 o'r gloch ac yn dilyn ym Mynwent Capel Seion, Llanrwst. Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof tuag at Gapel Tabernacl a Cartref y Borth, Llanrwst drwy law Gwynfor Griffiths, Trefnydd Angladdau, Golygfa'r Dyffryn Trefriw, Llanrwst 01492 640722
December 2008 issue of "Y Pentan"
Capel Y Tabernacl
Bu i ni golli ein haelod hynaf ym marwolaeth Mrs.Annie Davies Station Terrace gynt, ond a fu yng Nghartref y Borth am ychydig dros dair blynedd. Daeth yn aelod i'r Tabernacl ar achlysur ei phriodas gyda'i diweddar gymar Mr. Joe Davies. Bu'n aelod selog, ffyddlon a theyrngar i holl weithgareddau'r eglwys am 71 o flynyddoedd. Roeddem oll, fel llawer Cymdeithas yn y dref, yn meddwl y byd ohoni. Roedd ganddi rinweddau niferus a fu'n gyfrwng i'n cyfoethogi'n ddirfawr. Wynebodd stormydd enbyd yr yrfa gan bwyso'n gyfan gwbl ar ei ffydd a'i hymddiriedaeth yn ei Harglwydd a'i Gwaredwr, Iesu Grist.
Gwnaeth ymdrech arbennig hyd yn oed eleni i bresenoli ei hun yn yr oedfa ac ni phylodd ei gwen hyfryd hyd y diwedd un. Diolchwn i Dduw amdani ac am y cyfan a gyfrannodd mewn gair a gweithred yn Ei winllan. Llewyrched goleuni tragwyddol arni. Cydymdeimlwn yn fawr iawn gyda'r teulu yn eu colled, yn arbennig gyda Robert Roberts, Llandudno, y nai a fu mor fyddlon ac yn bopeth iddi. Daeth cynulleidfa luosog cwbl haeddiannol i'w harwyl yn y Tabernacl ar Dachwedd 7fed cyn gosod ei gweddillion ym meddrod y teulu ym mynwent capel Seion.
Above: William and Margaret Jones, the maternal grandparents of Annie and Phoebe Jones, Garthmyn.
Annie (Margaret Ann Jones) was born 15 January 1910, the daughter of Owen Jones of Maenan and Ann Jones, the daughter of William and Margaret Jones. Annie’s sister Phoebe was born around 1906, and their little brother, William John, was born in December 1917 but died aged four months on 30 April 1918.
As a child, Annie used to walk two and a half miles to school in Llanddoget. Owen and Ann lived in Garthmyn for years, then lived in Penygroesffordd when they retired, before moving to Station Terrace, Llanrwst, where they were cared for by Annie until they died. Ann died aged 77 on 2 March 1953 and Owen died aged 88 on 14 October 1958.
Above: Annie in 1971.
Annie married Joseph Davies of Ty Capel, Nant y Rhiw, a horse breaker. They kept up an interest in horses for the rest of their lives.
Above: One of their horses won at the Show - they bought this painting of the horse.
After Jo’s death on 5 June 1983 Annie stayed on alone in Station Terrace, and in her early nineties her neighbours used to take it in turn to bring her dinner every day. She fell one day and hurt her thumb, and one of the neighbours came in every morning to light the fire for her. Her nephew, son of her sister Phoebe, used to travel from the coast regularly to look after her.
Jo was buried with Annie’s parents in Capel Garmon, but Annie was laid to rest in the Capel Seion cemetery, Llanrwst.
(RE)
--------------------------------
2007 Margaret Rhiannon JONES
Rhiannon had the sad experience of being widowed three times before she herself passed away in 2007. She was the daughter of Thomas R. Thomas, who worked as a quarryman in Penmachno. Her cousin Richie, the son of her father's brother, was the famous Welsh singer; he worked at the Penmachno woollen mill from 1921 until his retirement in 1971.
Rhiannon's first husband was William David Jones of Ty Newydd y Rhos, Siloam.
Above: William David and Rhiannon.
Her second husband was William Ivor Roberts, son of Margaret Jane Roberts, Cefn Cestyll.
Her third husband was John Lloyd Jones, whom she had known when she was young; John had moved to Crewe when he was 16. They married in 2002 and enjoyed some three years together before John passed away.
COLLI MODRYB
Un o fodrybedd fy ngwraig ydoedd y diweddar Margaret Rhiannon Jones a fu'n byw ddiwethaf yn "Tegfan", 35 Stryd Watling, Llanrwst.
Cafodd yn o agos i bedwar ugain mlynedd o fywyd daearol a chafodd ei fyw'n helaeth ar ôl codi o gyni ei gorffennol yn ardal Cwm Penmachno.
Bu'n cadw siop ddillad i ferched yn nhref Llanrwst o'r enw "She Fashions" gyda phartneres am nifer o flynyddoedd tan tua deunaw mlynedd yn ôl a bu'n briod deirgwaith.
Bonesig fechan o gorff ydoedd eithr yr oedd môr enfawr o gariad ynddi tuag at bawb a phopeth.
Chafodd hi ddim plant ond ar un adeg, flynyddoedd lawer yn ôl, 'roedd wedi chwennych magu fy ngwraig fel ei merch ei hun wedi i honno golli'i mam pan oedd oddeutu dwyflwydd oed. Ond er ei cholled, ni chafodd fy nghymar ddod yn lysferch iddi oblegid bod Rhiannon wedi bod yn derbyn triniaeth at y diciâu.
Byddai llawer yn galw heibio i'w chartref a byddai'n hoff o ddifyrru amser ei gwesteion pa un ai gwahoddedigion oeddynt ai peidio.
'Roedd yn credu yn Nuw a'i phroffes ddiymwad oedd wrth graidd ei chariad diamod a'i charedigrwydd haelionus yn ogystal â'i chymwynasgarwch di-ben-draw tuag at bobl.
'Roedd yn aelod o gapel Horeb, Llanrwst lle bu'n gyfrwng am flynyddoedd lawer i gadw lamp Yr Achos ynghynn yno gydag eraill.
Lai na deng mlynedd yn ôl cafwyd ei bod yn dioddef o ganser y fron. Fe baffiodd y salwch hwnnw gyda dewrder syfrdanol ond graddol ledu wnaeth yr afiechyd dieflig trwy ei chorff er gwaethaf ymyrraeth feddygol glodwiw ac ar ôl derbyn ei gŵys yn gynnar fore Llun, 6 Awst, 2007, fe lithrodd yn dawel i afaelion angau tra'r oedd yn glaf-preswyl yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno.
Cynhaliwyd ei harwyl yng Nghapel Horeb, Llanrwst ddydd Llun, 13 Awst, 2007 a darlosgwyd ei chorff yn Amlosgfa Bae Colwyn.
Gedy drancedigaeth Rhiannon wacter mawr ym mywyd ei chyfeillion di-rif yn ogystal ag ym mywyd pob aelod o'i theulu niferus a mawr yw ein cydymdeimlad â phawb sy'n teimlo'r ing cignoeth o'i cholli hi.
Dafydd Llewelun Jones 15.08.07
--------------------------------
John Lloyd Jones, who lived in Tyddyn Gethin, Penmachno, until the age of 16, passed away in 2005 at the age of 78. A widower, he married an old friend in 2002, Rhiannon Roberts (above).
----------------------------------
MARIAN JONES EVANS, PENUCHARGWYLLT
Above: Miss Marian Jones Evans of Pen Ucha'r Gwyllt, Melin-y-Coed, is seen here in August 2000 with "Aunt Jennie Pont Clwt Pentrefoelas". Marian suffered a fall outside her home in the summer of 2008 and was admitted to hospital. Sadly, she passed away on Sunday, July 13th, 2008, aged 76, and was laid to rest in Cae Melwr, Llanrwst, on the 18th after a service in The Tabernacle Chapel. She was the daughter of the former Annie Jones, Pont y Clwt, and Hugh Evans of Garth Hebog, uncle of the present owner.
"Yr Odyn" No 368 September 2008:
Ar y trydydd ar ddeg o fis Gorffennaf bu farw Marian Jones Evans Pen Ucha'r Gwyllt yn saith deg a chwech mlwydd oed. Cynhaliwyd gwasanaeth ei hangladd yng Nghapel y Tabernacl, Llanrwst ar y deunawfed o'r un mis ac fe'i rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Cae'r Melwr. Cydymdeimlwn gyda'r teulu a'r holl gysylltiadau
Above: Marian as a child.
Above: Marian as a young woman.
EMILY DILYS WILLIAMS
TYN TWLL, NANT Y RHIW
Daily Post, Saturday, November 21,1992
CYDYMDEIMLO
Williams - Emily Dilys, Tachwedd 19, 1992, yn dawel yn Ysbyty Llandudno, o Ty'n Twll, Nant-y-Rhiw, yn 86 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar Idwal Williams, mam dyner Audrey a Gwyneth, a nain hoff Evelyn a Lynda. Angladd Ddydd Mawrth Tachwedd 24. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Nant-y-Rhiw am 1.30 o'r gloch, ac i ddilyn ym Mynwent Cae Melwr, Llanrwst. Blodau gan y teulu yn unig ond os dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at yr Achos yng Nghapel Nant-y-Rhiw, trwy law Trefnwyr yr Angladd, Williams a Davies, Penlan, Pentrefoelas.
"Yr Odyn" Rhagfyr 1992
MARWOLAETH
Cydymdeimlwn yn arw gyda theulu Ty'n Twll yn eu profedigaeth o golli mam a nain annwyl.
MARWOLAETH
Dydd Iau 19 0 Dachwedd yn dawel yn Ysbyty Llandudno bu farw Mrs. Emily Dilys Williams, Ty'n Twll, Nant-y-Rhiw. Priod hoff y diweddar Mr.Idwal Williams a mam annwyl Audrey a Gwyneth a nain hoff Evelyn a Lynda.
Bu ei hangladd dydd Mawrth, Tachwedd 24. Gwasaneth yng Nghapel Nant -y-Rhiw dan arweiniad y Parch. Eryl Lloyd Davies. Mrs. Edith Williams oedd wrth yr organ, ac arweinwyd y canu gan Mr. Owen Jones. Rhoddwyd ei gweddillion
i orffwys ym Mynwent Cae Melwr. Y cludwyr oedd Egryn Jones, John R. Jones, Goronwy O. Jones, Thomas M. Jones. Derbyniwyd blodau er cof amdani oddi wrth: Audrey a Hugh, Gwyneth ac Emlyn, Evelyn a Ieuan, Lynda a Trebor, Egryn a Gwyneth a'r teulu, Alwena, Gron ac Avril a'r teulu, Fron Bella a John a Heulwen a'r teulu.
DIOLCH
Dymuna Audrey a Gwyneth a'r teulu, ddiolch yn garedig am y cardiau, blodau a'r rhoddion a dderbyniwyd at Gapel Nant-y Rhiw er cof am eu mam. Diolch i'r Parch. Eryl Lloyd Davies am ei wasanaeth, i Mrs. Edith Williams wrth yr offeryn ac i Mr. Owen Jones amm arwain y canu. Diolch hefyd i'r nyrsus a'r meddygon am eu gofal drosti ac hefyd Ysbyty Llandudno, ac i Williams a Davies (Pentrefoelas) Trefnwyr Angladdau.
Er Cof: Emily Dilys Williams gan Dafydd Llewelun Jones
Methiant gwaradwyddus ar fy rhan fyddai peidio a dweud gair neu ddau y mis hwn am y diweddar fonesig Emily Dilys Williams, Ty'n Twll, Nant-y-Rhiw a hunodd yn dawel yn Ysbyty Llandudno ddydd Iau, y 19eg o Dachwedd, eleni ar ol cystydd byr.
Un o Nebo ydoedd yn wreiddiol ond bu'n byw yn Ty'n Twll ers pan oedd yn eneth fach pedair oed ac yno yn y man y bu'n amaethu gyda'i gwr nes y bu ef farw naw mlynedd yn ol. Fe ballodd ei diddordeb yn y tir ar ôl hynny a dechreuodd gilio'n araf o lygad y cyhoedd.
Cof da ond diweddar iawn gennyf am yr hen wraig, a adnabyddid yn well gennyf fel Nain Ty'n Twll, naill ai'n eistedd yn ei chwman o flaen tanllwyth o dan yng nghegin ei chartref neu unai'n eistedd neu'n gorwedd yn ei hystafell wely yn cael ei chynhesu gan andros o siol fawr wlanog a fyddai un o'i genethod yn ddi-feth wedi'i lapio amdani ac yn dweud dim wrth neb. Hawdd y gallai'r diweddar fardd William Jones Nebo fod wedi bod yn siarad am yr union ddynes hon pan soniodd yn un o'i benillion am:
Hen wreigan fach grymanog
Heb orchwyl mwy i'w wneud
Yn eistedd yn gwmanog
Heb odid dim i'w ddweud:
Ar goll yn hedd y 'stafell glyd
A'i gwreiddiau'n dal ym mhendraw byd
Ar achlysuron o'r fath hawdd i'r cyfarwydd fyddai gweld cygodion angau'n graddol gau amdani. A hithau bellach yn tawel orffwys tan bridd Mynwent Cae'r Melwr, fedrwn ninnau ddim gwell yn nawr na dymuno heddwch i'w llwch.
Y Cipar.
William Evans was laid to rest in 1955 aged 83 with his first wife, Eliza Eden, and their son, John.
Memorial Inscription as found by Paticia Williams:
Er serchog gof am Eliza, annwyl briod William Evans, Fron Wen, Melin y Coed, yr hon a fu farw Tachwedd 18, 1904 yn 36 oed. Hefyd John, annwyl blentyn yr uchod, yr hwn a fu farw , Gorffenaf 27, 1907, yn 6 mlwydd a 4 mis oed. Hefyd William Evans, a fu farw, Chwefror 26, 1955, yn 83 mlwydd oed.
In loving memory of Eliza, beloved wife of William Evans, Fron Wen, Melin y Coed, who died November 18, 1904, aged 36 years. Also John, beloved son of the above who died July 27 1907, aged 6 years and 4 months. Also William Evans who died February 26, 1955, aged 83
Gwraig y Cipar.
Laid to rest in Capel Garmon with her sons Ifor and Willie in January, 1957 aged 73, and joined in later years by other of her children.
Un o meibion y Cipar.
Nellie, merch i'r Cipar.
Merch / daughter of William and Eliza Evans, and sister of John.
Sister of Ellen Ann, mother of William Ifor. Known as Auntie Mag to one branch of the family and Auntie Sên to the other.
1996 Rose Williams
Above: Rose, the daughter of Ann Thomas nee Evans Glan y Gors, Carmel, and Ffynnongroew, died in 1996 aged 86.
1953 Jane Williams, Gorsedd Grucyn.
Jane Williams, the wife of Thomas Williams (below) had an unusual life. There was no documentation to say when she was born, so as it was estimated that she was the same age as Ellen Ann Evans, Fronwen, it was decided to give her the same nominal birth year. See her story along with her husband's on our page "Williams Family Gorsedd Grucyn".
1923 Thomas Williams
Above: Thomas Williams of Gorsedd Grucyn passed away in 1923 at the age of 74. See his story on our other page, "Williams Family Gorsedd Grucyn".
Son of Mary and Wil Evans, later of Tyddyn Bychan, Siloam.
Wil was from Ty Newydd y Rhos.
1917 William John Roberts
Above: William John Roberts, the son of William Roberts of Bryn Esgob, Nebo and Tan y Benar, Dolwyddelen, died in 1917 as a result of being kicked in the head by a horse. He was staying with his grandparents in Siloam at the time, Catherine and William Roberts of Cefn Bach and Cefn Cestyll. His grandmother never got over the shock. Grandfather William was the son of Cadwaladr Roberts, Bryn y Cyplau and Ellen Roberts, Soflen.